Y Pwyllgor Deisebau

 

Lleoliad:

Ystafell Bwyllgora 1 - y Senedd

 

 

 

Dyddiad:

Dydd Mawrth, 24 Chwefror 2015

 

 

 

Amser:

09.00 - 09.40

 

 

 

Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://www.senedd.tv/Meeting/Archive/61a7734d-a890-4f0a-8290-30d240c76a72?autostart=True

 

 

Cofnodion Cryno:

MeetingTitle

 

 

 

Aelodau’r Cynulliad:

 

Russell George

Bethan Jenkins (Cadeirydd dros dro)

Gwyn Price (yn lle Joyce Watson)

 

 

 

 

 

Tystion:

 

 

 

 

 

 

Staff y Pwyllgor:

 

Steve George (Clerc)

Kath Thomas (Dirprwy Glerc)

Helen Roberts (Cynghorydd Cyfreithiol)

 

 

 

<AI1>

1   Cynnig i ethol Cadeirydd dros dro

 

Ar ôl cael ei henwebu gan Russell George AC, etholwyd Bethan Jenkins AC yn Gadeirydd dros dro o dan Reol Sefydlog 17.22.

 

 

 

 

 

</AI1>

<AI2>

2   Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

 

Cafwyd ymddiheuriadau gan William Powell AC a Joyce Watson AC. Roedd y ddau yn bresennol yng nghyfarfod y Gymdeithas Seneddol Brydeinig-Wyddelig yn Nulyn. Roedd Gwyn Price AC yn bresennol ar ran Joyce Watson.

 

</AI2>

<AI3>

3   Trafod y sesiwn dystiolaeth a gynhaliwyd ar 3 Chwefror 2015 - P-04-597 Diogelu dyfodol y Ddraig Ffynci, Cynulliad Plant a Phobl Ifanc Cymru

 

Trafododd y Pwyllgor y sesiwn dystiolaeth gyda Phlant yng Nghymru a gynhaliwyd ar 3 Chwefror, a chytunodd i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru a Chomisiwn y Cynulliad i ofyn:

 

·      a oes unrhyw gynnydd pellach wedi’i wneud i sefydlu corff ieuenctid cynrychiadol i olynu y Ddraig Ffynci; ac

·      am wybodaeth am unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd mewn perthynas â’r materion a godwyd yn y ddeiseb.

 

</AI3>

<AI4>

4   Deisebau newydd

 

</AI4>

<AI5>

4.1     P-04-617 Stopiwch y Trosglwyddo Dilyffethair o Lyfrgelloedd Cyhoeddus i’r Sector Gwirfoddol

 

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth yn gofyn ei farn am sylwadau pellach y deisebydd.

 

</AI5>

<AI6>

5   Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol

 

</AI6>

<AI7>

5.1     P-04-408 Gwasanaeth i Atal Anhwylder Bwyta ymysg Plant a Phobl Ifanc

 

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:

·         Ofyn i’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol am ei sylwadau ar ohebiaeth Ms Missen;

·         Cadw golwg ar y mater a gofyn i’r Gweinidog am gael gwybod am ddatblygiadau: a

·         Rhoi gwybod i’r deisebydd am yr adolygiad o’r Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed sydd i gael ei lansio ddydd Iau 26 Chwefror, i roi cyfle iddo gyflwyno barn pe bai am wneud hynny.

 

</AI7>

<AI8>

5.2     P-04-553 Ymchwiliad llawn ac annibynnol i’r risgiau iechyd sy’n gysylltiedig â thechnolegau diwifr a ffonau symudol yng Nghymru, gan gynnwys yr holl ysgolion

 

Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb ac, fel y cytunwyd yn flaenorol, penderfynodd ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ofyn ei farn ar:

·         y dystiolaeth a’r wybodaeth a ddarparwyd yn flaenorol gan OFCOM; ac

·         a yw Canolfan Iechyd y Cyhoedd Lloegr ar gyfer Ymbelydredd, Peryglon Cemegol ac Amgylcheddol yn ystyried tystiolaeth o Gymru o ran darparu cyngor i Lywodraeth Cymru.

 

</AI8>

<AI9>

5.3     P-04-586 Holl staff GIG Cymru i gael eu talu ar y gyfradd Cyflog Byw o £7.65 yr awr o leiaf

 

Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd, o ystyried bod y deisebydd wedi nodi bod y mater bellach wedi cael ei ddatrys drwy drafodaethau, i gau’r ddeiseb.

 

</AI9>

<AI10>

5.4     P-04-601 Gwaharddiad Arfaethedig ar Ddefnyddio e-sigaréts Mewn Mannau Cyhoeddus

 

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:

 

·         Ddwyn sylw’r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol at y mater, i’w ystyried os caiff y Bil Iechyd y Cyhoedd arfaethedig, y disgwylir, ar hyn o bryd, iddo gael ei gyhoeddi cyn toriad yr haf, ei gyfeirio atynt ar gyfer craffu arno; ac 

·         Gofyn i’r Gweinidog am ei farn ar ohebiaeth bellach y deisebydd, yn enwedig ei sylwadau ar ymgysylltiad Llywodraeth yr Alban â’r gymuned rhyddhau anwedd, a’i ddealltwriaeth o’r penderfyniad i beidio â mynd ar drywydd gwahardd e-sigaréts mewn mannau cyhoeddus yn yr Alban.

 

</AI10>

<AI11>

5.5     P-04-603 Helpu babanod sy’n cael eu geni ar ôl 22 wythnos i oroesi

 

Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i ofyn am farn bellach y deisebydd yn dilyn ei chyfarfod gyda swyddogion y llywodraeth a oedd i gael ei gynnal ar 18 Chwefror.

 

</AI11>

<AI12>

5.6     P-04-608  Ymchwiliad i’r GIG yng Nghymru

 

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ofyn am farn y deisebydd am lythyr y Gweinidog.

</AI12>

<AI13>

5.7     P-04-422 Ffracio

 

Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth ar y ddeiseb, a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Cyfoeth Naturiol i gael eglurhad ar swm a sylwedd sylwadau a nodwyd yn ddiweddar, yn ôl y sôn, am foratoriwm ar ffracio, nad oes sôn amdanynt yn ei lythyr at y Pwyllgor.

 

</AI13>

<AI14>

5.8     P-04-536 Rhoi’r Gorau i Ffatrïoedd Ffermio Gwartheg Godro yng Nghymru

 

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:

 

·         Dynnu sylw’r Gweinidog Cyfoeth Naturiol at sylwadau ychwanegol y deisebwyr: a

·         Chau’r ddeiseb o ystyried bod y ddwy ochr yn derbyn bod gan Gymru hanes da o ran hwsmonaeth anifeiliaid, a’i bod yn hyrwyddo safonau uchel o ran lles anifeiliaid fferm, ac nad oes tystiolaeth glir sy’n dangos bod unrhyw broblem neilltuol yng Nghymru y tu hwnt i’r angen am wyliadwriaeth barhaus.

 

</AI14>

<AI15>

5.9     P-04-579 Adfer cyllid ar gyfer monitro Gwylogod Ynys Sgomer

 

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Cyfoeth Naturiol i ofyn am ei farn ar sylwadau’r deisebydd, yn benodol ar y pryderon a fynegwyd y gall y data a gasglwyd o dan gontract y Cyd-bwyllgor Cadwraeth Natur fod wedi dangos canlyniadau diffygiol.

 

</AI15>

<AI16>

5.10   P-04-605 Achub Ffordd Goedwig Cwmcarn Rhag Cael ei Chau am Gyfnod Amhenodol neu’n Barhaol

 

Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i ofyn i’r Gweinidog ofyn i’w swyddogion a Chyfoeth Naturiol Cymru weithio gyda ‘Ffrindiau Ffordd Goedwig Cwmcarn’ wrth ddod o hyd i ateb ar gyfer dyfodol y ffordd.

 

</AI16>

<AI17>

5.11   P-04-458 Cadwch Addysg Bellach yn y Sector Cyhoeddus

 

Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth gan y deisebydd a chytunodd i gau’r ddeiseb o gofio mai’r unig bwynt sy’n weddill yn y mater yw pwynt tri o’r ddeiseb, ac mae’r deisebwyr wedi nodi nad oes ganddynt unrhyw beth pellach y maent am ei ychwanegu.

</AI17>

<AI18>

5.12   P-04-566 Adolygu’r Cod Derbyn i Ysgolion

 

Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i gau’r ddeiseb o ystyried na chafwyd ymateb gan y deisebydd, ac mae’r Gweinidog wedi darparu ymateb manwl i bob un o’r materion a godwyd yn y ddeiseb. 

 

</AI18>

<AI19>

5.13   P-04-540 Stopio rhagfarn ar sail rhyw mewn cam-drin domestig

 

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan y deisebydd a chytunodd i aros am ymateb y Gweinidog cyn ystyried y ffordd orau i symud ymlaen.

 

</AI19>

<AI20>

5.14   P-04-556 Na i gau Cyffordd 41

 

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth, a chytunodd i ysgrifennu at Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth yn gofyn am ymateb i’r pryderon penodol a amlinellir yng ngohebiaeth y deisebydd, gan gynnwys sylwadau ychwanegol a gyflwynwyd ar 23 Chwefror.

 

</AI20>

<AI21>

5.15   P-04-562 Canolfan Etifeddiaeth Caernarfon

 

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y deisebydd a chytunodd i:

 

·         Hwyluso’r cyswllt rhwng y deisebwyr a swyddogion perthnasol yn CADW a Chyngor Sir Gwynedd;

·         Ysgrifennu at bob Aelod yng Ngogledd Cymru yn tynnu eu sylw at y ddeiseb; a

·         chau’r ddeiseb.    

 

</AI21>

<AI22>

5.16   P-04-565 Adfywio hen reilffyrdd segur at ddibenion hamdden.

 

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y deisebydd a chytunodd i:

 

·         Ofyn i Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth a allai’r Ddeddf Teithio Byw (Cymru) 2013 ddarparu dull o fynd i’r afael â’r materion a nodwyd yn y ddeiseb; ac

·         ysgrifennu at SUSTRANS i gael eu sylwadau.

 

</AI22>

<AI23>

5.17   P-04-590 Cyllid ar gyfer gwasanaeth bws arfordirol y Cardi Bach

 

Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth ar y ddeiseb ac, o ystyried bod cytundeb wedi bod o ran gwrthrych y ddeiseb, penderfynodd gau’r ddeiseb ar y sail, os bydd y sefyllfa’n newid yn y dyfodol, y gellir cyflwyno deiseb arall.

 

</AI23>

<AI24>

5.18   P-04-539 Achub y Gyfnewidfa Lo

 

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:

 

·         Ysgrifennu at Gyngor Sir Caerdydd eto i gael gwybod beth yw’r sefyllfa ddiweddaraf; ac

·         Gofyn i’r Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Pwyllgor am y datblygiadau.

 

</AI24>

<AI25>

5.19   P-04-573 Galwad ar Lywodraeth Cymru i Ymchwilio i’r System Lesddaliadau Preswyl yng Nghymru

 

Cytunodd y Pwyllgor ar yr ohebiaeth ar y ddeiseb, a chytunodd i ofyn am sylwadau gan y deisebydd cyn mynd ymlaen i gau’r ddeiseb. 

 

</AI25>

<AI26>

5.20   P-04-577 Adfer Cyllid i’r Prosiect Cyfleoedd Gwirioneddol

 

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:

 

·         Roi gwybod i’r deisebydd ynghylch cyngor y Gweinidog y dylai gysylltu â Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru (WEFO) yn uniongyrchol; a 

·         Gofyn am sylwadau gan y deisebydd cyn mynd ymlaen i gau’r ddeiseb. 

 

</AI26>

<TRAILER_SECTION>

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

 

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

 

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</ TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

 

</ COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>